Adnoddau ar gyfer pobl sydd yn derbyn mentora
Adnoddau ar gyfer mentoriaid
Gwybodaeth Defnyddiol
Adnoddau eraill
Regional events

Swydd ddisgrifiad mentor

Prif nod mentor yw adeiladu perthnasau cynaliadwy wedi selio ar ymddiriedaeth gyda’r personau hynny sydd yn cael eu mentora er mwyn mwyhau eu gallu i gychwyn, cynnal a thyfu eu busnesau.

Rôl mentor

Mae gweithgareddau mentora yn cael eu hymgymryd drwy ystod o ffyrdd gan gynnwys cyfarfodydd wyneb - i - wyneb (un wrth un neu grŵp), trafodaethau teleffon a chyfnewidiadau e-byst.

Mae gofyn i fentoriaid i:

  • weithio’n agos gyda’r bobl hynny sy’n derbyn mentora i gytuno ar sut gall mentora gefnogi eu darpar fusnes neu fusnes sy’n bodoli eisoes
  • weithio gyda’r bobl hynny sy’n derbyn mentora ar draws marchnad y sefydliad mentora
  • cytuno ar raglen o weithgaredd mentora sydd yn cwrdd ag anghenion y person sy’n derbyn mentora yn y modd gorau
  • annog y person maent yn mentora i fynegi a thrafod eu syniadau, pryderon a dealltwriaeth o’r sefyllfa fusnes sy’n eu hwynebu
  • helpu’r bobl hynny sy’n derbyn mentora i adolygu eu datblygiad a gosod opsiynau realistig ac ymarferol i wireddu eu bwriad
  • helpu’r bobl hynny sy’n derbyn mentora i adlewyrchu ar ac i ddysgu oddi wrth y pethau hynny na wnaeth droi allan fel y disgwyliwyd
  • cyfeirio’r bobl hynny sy’n derbyn mentora i ffynonellau pellach o wybodaeth, cyngor neu gefnogaeth pan fo’n briodol
  • annog y bobl hynny sy’n cael eu mentora i gymryd cyfrifoldeb dros eu penderfyniadau, cynlluniau a gweithrediadau
  • cyflwyno delwedd positif o fentora busnes a dilyn cod ymarfer y sefydliad sy’n cael ei gynrychioli
  • cadw cofnodion cyfoes a chywir o gyswllt gyda’r bobl hynny sy’n derbyn mentora

Galluoedd mentor

Rhaid i fentor fod yn berchen neu yn gallu datblygu’r galluoedd canlynol er mwyn ymgymryd â rôl mentor yn effeithiol:

Sgiliau


Craidd

  • Sgiliau cyfathrebu gwych i gynnwys gwrando effro a sgiliau cyflwyno personol
  • Rheoli amser effeithiol
  • Adeiladu perthnasoedd a rhwydweithiau
  • Datblygiad personol
  • Cynnal cofnodion a pharatoi adroddiadau ysgrifenedig


Sgiliau nad ydynt yn rhai craidd

  • Rheolaeth risg – perthnasol i fusnes a personol
  • Datblygu pobl
  • Dylanwadi a negodi

Gwybodaeth a dealltwriaeth

Sgiliau nad ydynt yn rhai craidd

  • Y gwahaniaeth rhwng rôl mentor a phobl busnes proffesiynol eraill e.e. hyfforddwr, cynghorydd neu ymgynghorydd
  • Cod moeseg / ymarfer ar gyfer mentora fel y’i lluniwyd gan y sefydliad sydd yn cael ei gynrychioli
  • Rheolau ar gyfrinachedd a diogelu data a sut i’w dilyn
  • Y proses mentora i gynnwys cytundeb / contract mentora y cytunwyd arno gyda’r sefydliad sydd yn cael ei gynrychioli
  • Y berthynas fentora a’r pwysigrwydd o ddefnyddio’r dulliau cyfathrebu mwyaf effeithiol i greu amgylchedd mentora cynhyrchiol
  • Sut mae busnes yn gweithio (gallu mentro angenrheidiol)

Ymddygiad personol

Craidd

Dylai fod gan fentoriaid y gallu i:

  • Barchu angen y person sy’n derbyn mentora am wybodaeth, ymrwymiad a chyfrinachedd
  • Wrando ac ymateb yn effeithiol a gwirio dealltwriaeth
  • Addasu eu dull personol i empatheiddio gydag amryw o bobl sy’n derbyn mentora
  • Adeiladau chynnal perthynas dros gyfnod parhaus o amser
  • Gwahodd rhannu gwybodaeth ac adborth dwy ffordd gyda’r bobl sy’n derbyn mentora ac eraill
  • Arddangos sgiliau rhyngbersonol gwych i gynnwys dylanwadu a negodi
  • Meddu agwedd hyblyg tuag at waith
  • Bod yn emosiynol wydn a medru gweithio mewn amgylchedd heriol

Profiad

  • Arbenigedd proffesiynol ymarferol llwyddiannus mewn ardaloedd busnes allweddol gan gynnwys marchnata, gwerthiant, cyfraith, cyllid/cyfrifo, AD, TG, gwasanaeth cwsmer, ymchwil, mewnforio / allforio